Ymddeolodd Phillip Alderman o’r GIG ar ddiwedd 2020 ar ôl mwy na 38 mlynedd o wasanaeth, y 27 mlynedd diwethaf a dreuliwyd yn gwasanaethu pobl Gwent fel Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Parhaodd mewn practis preifat tan ddiwedd mis Mehefin 2023. Roedd yn Uchel Siryf Gwent yn 2021-2022 a bu’n Llawfeddyg Orthopedig er Anrhydedd i Glwb Rygbi Casnewydd a Dreigiau Casnewydd Gwent yn ogystal â llywodraethwr Ysgolion Haberdashers, Trefynwy. Mae’n Rhyddfreiniwr y Worshipful Company of Haberdashers ac yn Llywydd Cymdeithas Orthopedig Cymru am 2022 - 2024.
