Gan ei bod yn hanu o Blaina o genedlaethau lawer o deuluoedd glofaol, hi oedd yr unig berson yn ei theulu i fynd ymlaen i addysg drydyddol a chafodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Caerlŷr. Ar hyn o bryd hi yw barnwr teulu preswyl Gwent. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn hawliau plant a chyfle cyfartal ar gyfer holl strwythurau cymdeithas.

