Penodwyd y Brigadydd Aitken gan y Frenhines yn Arglwydd Raglaw Gwent ym mis Mawrth 2016. Mae wedi byw yng Ngwent ers plentyndod.
Yn dilyn ysgoloriaeth gorawl i Rydychen, comisiynwyd y Brigadydd Aitken yng Nghatrawd Frenhinol Cymru. Parhaodd ei yrfa filwrol am 34 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn dyfarnwyd CBE iddo.
Ers gadael y Fyddin, mae wedi gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, i’r elusen Music in Hospitals, ac i’r elusen iechyd meddwl Hafal yn cefnogi prosiectau iechyd meddwl cyn-filwyr.
Mae'n briod gyda 2 fab ac yn byw ger Cwmbrân.